John Gerwyn ReesWILLIAMSHunodd Gerwyn yn sydyn ond yn dawel yn ei gartref Brynywawr, Gorsgoch, Llanybydder ar ddydd Sadwrn Tachwedd 20fed 2021 yn 89 mlwydd oed. Priod ffyddlon Lorraine, tad cariadus Byron, Mary a'i phriod Gareth, tadcu annwyl Llŷr, Rhys a Briallt a brawd yng nghyfraith hoffus Einon, Ann a John. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Brynhafod, Gorsgoch ddydd Sadwrn Tachwedd 27ain 2021 am 12 o'r gloch. Dim blodau ond derbynnir rhoddion er cof am Gerwyn tuag at Cymdeithas Ceredigion i'r Deillion trwy law - Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB. Ffôn: 01545 590254
Keep me informed of updates